Mewn newyn mawr a syched tyn

(Salm CVII. adn.5,6,7.)
Mewn newyn mawr a syched tyn,
  A'u henaid yn llewygu;
Oll i anobaith yn mron myn'd,
  Heb ganthynt ffrynd i'w helpu.

Yn yfed dyfroedd llwyd o'r llyn,
  Yn ngwresog ddyffryn Bacca;
Yn gorfod yfed, nid o'u bodd,
  O chwerwon ddyfroedd Mara.

Gwaedasant ar yr Arglwydd nef,
  Yn eu cyfyngder enbyd;
Am gael eu dwyn cyn dyddiau hir,
  I mewn i dir 'r addewid.

Yna eu gwared hwynt a wnaeth,
  O'u holl orthrym-gaeth foddion;
'Rhyd yr iawn ffordd
    fe'u dyg mewn hedd,
  I dref gyfannedd dirion.

Gostegodd d'ranau Sinai draw,
  Yr ysbryd, braw, a'r ofnau;
Daeth â hwy i Sion deg i fyw,
  At Iesu gwiw a'i glwyfau.

Iorddonen wyllt fe drodd yn ol,
  Gwynai'i gro fel
      doldir Canaan;
Nes daeth pob gwan, a llesg, a llaith,
  Trwy'r dyfroedd maith eu hunain.

Eu poen a'u gwae yn felus trodd,
  Oedd megis dyfroedd Mara;
'Nawr bwytta maent foreu a nawn,
  O sypiau'r grawn a'r manna.
William Williams 1717-91

[Mesur: MS 8787]

gwelir:
  Clodforwch bawb ein Harglwydd Dduw
  Pan ballo ffafor pawb a'i hedd
  Rhaid imi gael pob gras pob dawn
  Sancteiddrwydd im' yw'r Oen di-nàm
  Y rhai a gasglodd Duw ynghyd

(Psalm 117:5-7)
In great hunger and tight thirst,
  With their soul fainting;
All to hopelessness about to go,
  Without a friend to help them.

Drinking the grey waters from the lake,
  In the heat of the vale of Bacca;
Having to drink, not voluntarily,
  Of the bitter waters of Mara.

The called upon the Lord of heaven,
  In their desperate strait;
To be brought before long days,
  Into the land of the promise.

Then deliver them he did,
  From all their captive oppressions;
Along the right way
    he brought them in peace,
  To the settled town of lands.

The thunders of yonder Sinai he subdued,
  The spirit, terror, and the fears;
He brought them to fair Zion to live,
  To worthy Jesus and his wounds.

Wild Jordan he turned back,
  He would make its gravel like
      the meadowland of Canaan;
Until every weak, feeble and delicate one,
  Came through the vast waters themselves.

Their pain and their woe he turned sweet,
  That were like the waters of Mara;
Now eating they are morning and afternoon,
  From the grape-clusters and the manna.
tr. 2022 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~